Mudiadau
Cliciwch ar y pennawd i gael gwybodaeth gan y gwahanol fudiadau
![]() |
Cliciwch ar y logo i gael manylion am y Cylch Meithrin
Dathliad pen-blwydd 40ain Cylch Meithrin Bontnewydd
Dydd Sadwrn Medi 17eg 2016
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Clwb Cinio / Meithrin Mwy
Mae Cylch Meithrin Bontnewydd yn cynnig gwasanaeth Clwb Cinio 11:00 - 1:00 ac yna Clwb Meithrin Mwy 1:00 tan 3:00. Cysylltwch a Julia Hughes os ydych am archebu lle. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cliciwch ar y poster i'w chwyddo
Eisteddfod Gadeiriol Y Bontnewydd 2019
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Cafwyd Eisteddfod gwerth chwil. Cyfle gwych i arddangos talentau lleol. Cadeiriwyd Gwenlli Griffiths bl 6 a Meahb le Marie bl 9. Gwobrwywyd Lewys Williams gyda'r darian Celf.
Rhaglen 2019 - cliciwch yma
Adroddiad papur newydd 2019 - cliciwch yma
Eisteddfod Bontnewydd 2018
Cafwyd gwledd o gystadlu yn Eisteddfod Ieuenctid Bontnewydd. Braf oedd gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn cystadlu. Da iawn chi blant. Roedd yn bleser eich gweld yn cystadlu ac yn cefnogi eich ffrindiau. Diolch i'r Pwyllgor am drefnu ac I Gyfeillion yr ysgol am ddarparu caffi gwerth chweil. Cliciwch ar y linc er mwyn cael gweld y canlyniadau
Cliciwch yma i weld y canlyniadau
Eisteddfod Ieuenctid Bontnewydd 2018
Dydd Sadwrn Mehefin 16
Cliciwch yma i weld y rhaglen
Eisteddfod Gadeiriol Y Bontnewydd
Cafwyd diwrnod gwych o gystadlu yn Eisteddfod Gadeiriol Y Bontnewydd. Braf oedd gweld cymaint o blant yn cystadlu yn y cystadlaethau cynradd. Roedd safon y cystadlu yn ardderchog ac roedd y beirniaid wedi eu plesio yn fawr.
Cipwyd y Gadair Cynradd gan Osian Griffiths a'r Gadair Hyn gan Heledd Eryri Jones.
Yr artist mwyaf addawol oedd Sara Baines.
Llefarydd orau'r Eisteddfod oedd Rhian Owen ac Unawdydd gorau'r Eisteddfod oedd Ela Williams.
Diolch i bawb am gystadlu.
Diolch arbennig i aelodau'r pwyllgor am drefnu Eisteddfod mor lwyddiannus.
Adroddiad Papur Newydd - cliciwch yma
EISTEDDFOD IEUENCTID BONTNEWYDD 2017
Rhaglen Eisteddfod 2017 - cliciwch yma
EISTEDDFOD GADEIRIOL Y BONTNEWYDD
Roedd Eisteddfod Gadeiriol Y Bontnewydd yn eisteddfod llwyddiannus iawn. Er fod y tywydd mor braf a gem beldroed Cymru ymlaen yr un pryd, roedd y neuadd yn llawn hyd amser te.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor am eu gwaith caled eto eleni. Er mwyn sicrhau y bydd Eisteddfod y flwyddyn nesaf bydd angen gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda'r trefnu. Rydym wedi derbyn un enw yn unig hyd yn hyn. Cysylltwch gyda Dilys Williams neu Janet Wyn George os ydych ar gael i gynorthwyo.
Cafwyd cystadlu da yn yr Eisteddfod gyda nifer fawr yn cystadlu yn yr oed cynnar Meithrin a Derbyn. Da iawn chi blant. Cafwyd cystadlu safonol iawn trwy'r holl cystadleuthau cynradd ac er nad oedd llawer yn cystadlu yn yr oed uwchradd roedd eu perfformiadau yn arbennig iawn.
Prif Unawdydd yr Eisteddfod oedd Glyn Porter am ei berfformiadau ar y Piano a Chorn.
Prif Llefarydd yr Eisteddfod oedd Lois Jones am ei detholiad 'Ar Glawdd Offa'.
Prif Arlunydd yr Eisteddfod oedd Glyn Porter.
Prif Lenor/Bardd yr Eisteddfod oedd Sion Dafydd.
Y Llenor Hyn oedd Heledd Sion.
Cliciwch yma i weld y canlyniadau
Y beirniad, John Hywyn, Llandwrog gyda ennillydd Model o gadair am y gwaith Llenyddol mwyaf addawol, Blwyddyn 1-6: Sion Dafydd, Blwyddyn 5, Ysgol Bontnewydd ac ennillyd Cadair yr Eisteddfod: Heledd Eryri Jones, Y Groeslon.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
CANLYNIADAU EISTEDDFOD IEUENCTID BONTNEWYDD 2015
Dydd Sadwrn Mehefin 13 2015
Cliciwch yma i weld y canlyniadau
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
RHAGLEN 2015 EISTEDDFOD IEUENCTID
Dydd Sadwrn Mehefin 13eg 2015
Yng Nghanolfan Bontnewydd
Rhaglen 2015 Eisteddfod Ieuenctid - cliciwch yma
CANLYNIADAU EISTEDDFOD IEUENCTID BONTNEWYDD 2014
Cliciwch yma i weld y canlyniadau
EISTEDDFOD IEUENCTID
BONTNEWYDD 2014
Dydd Sadwrn Mehefin 14eg
BEIRNIAID:
Cerdd a Cherdd Dant: Iwan Williams, Llanberis.
Llefaru: Carwyn John, Bethel.
Rhyddiaith / Barddoniaeth: Mrs. Manon Wyn Williams, Pentreberw.
Arlunio: John Ellis Williams, Dolydd.
TÂL MYNEDIAD
Oedolion £3; Pensiynwyr: £2; Plant: 50c.
Dechreuir am 12.00 o'r gloch yn brydlon.
Cliciwch yma am raglen Eisteddfod Ieuenctid Bontnewydd 2014
EISTEDDFOD IEUENCTID BONTNEWYDD 2013
Dydd Sadwrn Mehefin 15ed 2013 - cliciwch yma am adroddiad
EISTEDDFOD IEUENCTID BONTNEWYDD 2012
Rhaglen 2012 - cliciwch yma
Cliciwch yma am y canlyniadau
Hyfforddi tim dan 7 oed
Annwyl Rieni / Gwarcheidwaid,
Rydym yn chwilio am berson(au) a fyddai’n fodlon cymryd gofal / hyfforddi tim dan 7 oed ar gyfer y tymor hwn - mae’r tymor eisoes wedi cychwyn ac mae cyfle i’ch plentyn chwarae gemau yn rheolaidd os oes rhywun yn fodlon cymryd gofal o’r tim.
Os oes gennych ddiddordeb, neu’n adnabod rhywun a fyddai a diddordeb, plis ffoniwch yn ystod y dyddiau nesaf (rhif ffon = 01286678035).
Yn gywir,
Erddyn Davies (Ysg. CPDI Bontnewydd).
Mae'r Ganolfan yn adeilad hen ysgol gynradd Bontnewydd, ac mae'n cael ei rhedeg gan Bwyllgor Rheoli o wirfoddolwyr ar ran y Cyngor Cymuned.
Mae'r Ganolfan at ddefnydd holl drigolion y pentre a'r ardal gyfagos, ac y mae modd ei llogi ar gyfer partion plant neu achlysuron tebyg.
Dyma'r mudiadau sy'n defnyddio'r Ganolfan yn rheolaidd:
Cylch Meithrin Bontnewydd
Clwb Ti a Fi
Clwb Ieuenctid Bontnewydd
Clwb Dawnsio 'Old Time'
Cyngor Cymuned Bontnewydd
Eisteddfod Gadeiriol Bontnewydd
Cangen Plaid Cymru Bontnewydd a'r Cylch
Clwb Gwyrfai (henoed)
Gellir llogi'r Ganolfan drwy gysylltu a'r Gofalwr (01286.677089) neu'r Cadeirydd (01286.676004)
Swyddogion y Pwyllgor Rheoli (2012-3): Dafydd Iwan (Cadeirydd), Bryn Hughes (Ysgrifennydd), Aled Williams (Trysorydd).