Gwersi Offerynnol
Cynigiwn wersi offerynnol mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ysgolion William Mathias.
Nod y bartneriaeth yw galluogi disgyblion i dderbyn hyfforddiant gan diwtoriaid arbenigol yn ystod oriau dysgu. Darperir 30 gwers o fewn y flwyddyn ysgol. Bydd y tiwtoriaid yn cynorthwyo gydag ymarfer cyngherddau, gwaith arholiadau a chystadlaethau’r Urdd.
Ar hyn o bryd gynigir gwersi offerynnol telyn a phres i ddisgyblion blynyddoedd 4,5 a 6.
Cost y gwersi fydd £120 am y flwyddyn, i’w dalu ar ddechrau tymor. Ni fydd ad-daliad os yw eich plentyn yn penderfynu rhoi gorau i’r gwersi yn ystod y flwyddyn.
Cliciwch yma am lythyr gwneud cais am wersi offerynnol