Cymdeithas Rhieni ac Athrawon
![]() |
Mae cangen gref iawn o Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn bodoli yn yr ysgol, sy’n cynnwys cynrhychiolwyr o rieni gweithgar a brwdfrydig. Mae’r gymdeithas bob amser yn awyddus i groesawu aelodau newydd ac yn ddiolchgar iawn o bob cymorth a gynigir.
Cynhelir amrywiol weithgareddau i godi arian tuag at goffrau’r ysgol yn ystod y flwyddyn ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr holl gefnogaeth mae’r ysgol yn ei dderbyn gan y gymdeithas hon.
Cynhelir cyfarfod blynyddol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol i godi aelodau newydd ar y pwyllgor, ac i ddechrau trefnu gweithgareddau am y flwyddyn ddilynol. Fel rheol cynhelir tua dau weithgaredd bob tymor ysgol.
Dyma rai gweithgareddau a gynhaliwyd yn ddiweddar:
Casgliad Rag Bag
Disgo Calan Gaeaf
Ffair Nadolig
Raffl Nadolig
Dyma swyddogion y pwyllgor am eleni:
Cadeirydd - Llio Jones
Ysgrifennydd - Sian Griffiths/Lynn Jones Trysorydd - Caryl Owen Trefnydd Rag Bag - Eirian Rees Trefnydd Dillad Ysgol - Tegwen Hughes
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynnig awgrymiadau neu rannu syniadau fynychu’r cyfarfodydd. Bydd y Pwyllgor yn falch iawn o groesawu wynebau newydd.
Chwefror 7fed
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Ionawr 25fed
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Ffair Nadolig Ysgol Bontnewydd 2016
Nos Iau, Tachwedd 24ain
Ffair Nadolig Ysgol Bontnewydd 2016
Cofiwch gadw'r dyddiad yn rhydd.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Tachwedd 2il, 6-7 yr hwyr
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Ffurflen Archebu Dillad Ysgol - cliciwch yma
Dydd Iau, Gorffennaf 7fed
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth