Y Clwb Brecwast
Gwnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymiad i roi cyfle i bob plentyn o oedran ysgol gynradd gael brecwast iach am ddim yn yr ysgol bob dydd. Bwriad y fenter yw helpu i wella iechyd a gallu plant i ganolbwyntio, er mwyn helpu i godi safonau dysgu a chyrhaeddiad.
Cynhelir Clwb Brecwast yn Ysgol Bontnewydd. Mae’n glwb rhad ag am ddim i bob plentyn o oed ysgol. Bydd y Clwb ar agor rhwng 8:00 a 8:50. Bydd brecwast yn cael ei weini rhwng 8:00 a 8:30. Gwneir trefniadau arbennig ar gyfer disgyblion sydd yn teithio i’r ysgol ar fws Caeathro.
Darperir dewis o rawnfwyd, tost, sudd ffrwythau a llefrith. Adran Darparu Cyngor Gwynedd sydd yn darparu’r bwyd.
Goruchwylir disgyblion o fewn y Clwb gan gymorthyddion Brecwast.
Mrs Carys Porter - Uwch oruchwyliwr Brecwast
Mrs Christine Jones - Goruchwyliwr Brecwast
Miss Rhian Hall - Goruchwyliwr Brecwast
Mrs Lilia Owen - Staff Cegin
Os yw eich plentyn yn dymuno derbyn ei frecwast yn y Clwb gofynnir i chi lenwi’r ffurflen berthnasol a’i ddychwelyd i’r ysgol.
Cliciwch yma am ffurflen